Straeon a Barddoniaeth

clicachip.org

image

Mae llawer o straeon, chwedlau a barddoniaeth yn gysylltiedig ag ardal Llŷn.

Isod ceir rai ohonynt.

Cliciwch ar y penawdau er mwyn cael eu darllen a'u mwynhau.

 

 

 

 

 



march ap meirchionAmser maith yn ôl, mewn hen gastell anferth o’r enw Castellmarch,ger Abersoch yn Llŷn, roedd y Brenin March ap Meirchion yn byw.

Roedd March yn enw anghyffredin iawn ar Frenin, achos ystyr ‘march’ ydi ceffyl. Ond y rheswm y rhoddwyd yr enw yma arno oedd am fod ganddo glustiau hir fel ceffyl!

Dyma’i gyfrinach – doedd neb arall yn gwybod hynny!

Oherwydd ei fod o’n frenin, roedd gan March lawer iawn o arian – oedd, roedd o’n ddyn cyfoethog iawn. Roedd ganddo weision a morynion yn edrych ar ei ôl, llawer o dir a llongau. Ond er yr holl gyfoeth, doedd y Brenin March ddim yn ddyn hapus o gwbwl.

Gadawodd i’w wallt dyfu’n hir er mwyn trio cuddio’i glustiau – cymaint oedd ei ofn rhag i bobol ddarganfod ei gyfrinach a chwerthin am ei ben. Ond tyfodd ei wallt mor hir nes ei fod yn baglu drosto!
“O diar, bydd raid i mi dorri fy ngwallt neu mi fyddai wedi baglu a thorri fy nghoesau,” cwynodd March. “ Rhaid i mi chwilio am farbwr sy’n gallu cadw fy nghyfrinach.”

castellmarchCofiodd am farbwr a arferai ddod i dorri gwallt ei dad ers talwm – dyn bach crwn oedd Ifan y Barbwr, dyn bach addfwyn a charedig a dyn bach tawel – dyn a dybiai March fyddai’n ardderchog ar gyfer yr orchwyl gyfrinachol! Anfonwyd amdano – i mewn â fo i’r castell ac i’r ystafell ysblennydd lle’r oedd y Brenin March yn aros amdano.

“Wel Ifan,” cychwynnodd March mewn llais sobor iawn,”pan gychwynni di dorri fy nhwallt, mi weli di fod gen i glustiau gwahanol i bawb arall – a dwyt ti ar boen dy fywyd ddim i yngan yr un gair wrth NEB byth am fy nghyfrinach. Wyt ti’n deall? Os bydd unrhyw un yn y byd yn cael gwybod am fy nghlustiau i – yna mi dorra i dy ben di i ffwrdd!”

Roedd yr hen Ifan wedi dychryn am ei fywyd ac roedd ei ddwylo’n crynu wrth drio torri gwallt y Brenin a dychrynnodd fwy byth pan welodd y clustiau hir blewog.

“Rydw i’n rhoi fy ngair i chi eich Mawrhydri – nad ynganai’r un gair am eich clustiau wrth neb – byth!” meddai Ifan.

Ond roedd y gyfrinach yn mynd yn drech nag Ifan – roedd ganddo gymaint o ofn dweud wrth rhywun mewn camgymeriad – poenai bob dydd a nos, ac yn y diwedd bu raid iddo fynd at y meddyg am gyngor.
Cynghorodd y meddyg Ifan i sibrwd y gyfrinach wrth y ddaear.

“Dydi’r ddaear ddim yn gallu siarad, felly mi fydd dy gyfrinach di’n hollol saff, ac mi fyddi ditha’n teimlo’n llawer gwell,” meddai’r meddyg.

corsyddCrwydrodd Ifan diroedd Llŷn yn chwilio am lecyn diogel i sibrwd y gyfrinach. Daeth at gors lle tyfai corsennau tal a hardd, plygodd a sibrydodd yr hanes i’r ddaear o gwmpas y corsennau,
“Mae clustiau march gan March ap Meirchion.”

Aeth am adra’n llawer tawelach ei feddwl a chysgodd yn braf heb ddim yn ei boeni.

Ymhen amser, penderfynodd y Brenin March gynnal gwledd yng Nghastellmarch ac roedd wedi gwahodd pibydd i roi adloniant i’r gwahoddedigion.

“Rydw am wneud pîb newydd sbon i chwarae yn y wledd arbennig yma,” addawodd y pibydd iddo’i hun.
Gwelodd gorsennau ar lan yr afon heb fod ymhell o Gastellmarch.

“Hmm, mi wneith rhain bibau hyfryd i mi, mae nhw’n gorsennau hir – yn union be’ rydwi angen,” meddai wrtho’i hun yn falch.

Torrodd gorsen a’i siapio yn union fel yr oedd ei hangen. I ffwrdd â fo gan hymian yn hapus.
Roedd Castellmarch yn orlawn. Gwelwyd byrddau’n llawn o bob math o ddanteithion drud, llestri aur a digonnedd o wîn a mêdd. Dawnsiai pawb, ac roedd March wrth ei fodd yn gweld pawb yn mwynhau eu hunain.

“Ty’d â thiwn bach swynol i ni ar dy bîb, bibydd,” gorchmynnodd March.

“Wrth gwrs, Syr. Mae gen i bîb newydd sbon sbancan yn fy mhocad,” atebodd yntau.

Sythodd o flaen y gwesteion, chwythodd i mewn i’r bîb – ac er syndod, beth ddaeth allan ohoni ond,
“Mae clustiau march gan March ap Meirchion.”

Dychrynnodd y pibydd am ei fywyd a dechreuodd y gwesteion sibrwd ymysg ei gilydd.

Rhoddodd gynnig arall arni,
“Mae clustiau march gan March ap Meirchion,” meddai’r bîb unwaith eto!

Aeth pobman yn ddistaw a throdd pawb yn y neuadd ddawns i edrych ar y Brenin.

Cododd March ap Meirchion ar ei draed a gorchmynnodd i’r pibydd roi’r bîb iddo fo i geisio’i chwythu – a’r un geiriau ddaeth allan unwaith eto. Taflodd y bîb ar lawr yn ei ddychryn.y datguddio

Ymddangosodd Ifan o gornel y neuadd, cerddodd yn dawel at y Brenin, penliniodd o’i flaen a chyfaddef mai fo oedd wedi’i fradychu drwy ddweud y gyfrinach wrth y corsennau. Adroddodd Ifan yr hanes, a gan fod March yn frenin da a charedig, meddai wrth Ifan,
“Dwi’n gwybod na wnes di ddim torri dy air Ifan – paid â phoeni, mae dy fywyd yn ddiogel.”

“Wel, fy ffrindiau,” cychwynnodd y Brenin, ”oes, mae gen i glustiau march.” Tynnodd ei goron oddiar ei ben a dangosodd ei glustiau hir, blewog i bawb eu gweld.

Doedd neb yn chwerthin, ond yn hytrach roeddan nhw’n ymfalchio ac yn dweud,
“Hwre! Mae ein Brenin ni yn Frenin arbennig iawn. Beth am ddathlu. Hwre!”

Teimliai March ap Meirchion yn hapus dros ben o gael rhannu’r gyfrinach a fu’n ei boeni ar hyd ei fywyd. Penderfynodd nad oedd am wisgo’r goron byth eto er mwyn cael dangos ei glustiau i bawb.

Oedd, roedd o’n arbennig, achos doedd gan yr un Brenin arall glustiau march ac o hyn ymlaen, roedd o am fod yn falch ohonynt.

I gael copi o'r chwedl i'w argraffu - cliciwch yma

Rhys a Meinir - cariadon y Nant

y cariadonRoedd Gorffennaf y pumed, flynyddoedd maith yn ôl, yn ddyddiad arbennig iawn i'r ddau gariad Rhys a Meinir - achos hwn oedd i fod y diwrnod hapusaf eu bywydau - diwrnod eu priodas. Hwn oedd i fod y diwrnod lle dangosai'r ddau o Graig y Llam, Nant Gwrtheyrn, ddyfnder eu cariad at ei gilydd.

Sgleiniai pelydrau'r haul tanbaid ar lethrau'r Nant - y grug porffor fel gemau mewn aur o eithin. Roedd bywyd yn ddedwydd.

Roedd Rhys a Meinir yn gymdogion ac wedi bod yn gyfeillon pennaf ers pan oeddent yn ifanc iawn, a'r cyfeillgarwch mewn amser wedi datblygu'n gariad. Fe'u gwelwyd hyd y mynydd a'r traeth yn cerdded law yn llaw yn edmygu byd natur ac yn gwylio'r haul yn machlud ar y gorwel neu'r lleuad yn ariannu'r môr. Hoffent wylio'r tonnau ar ddiwrnod stormus pan fyddo'r cesyg gwynion yn rasio am y lan.Oeddan, roeddan nhw mewn cariad go iawn. Byddai'r awyr yn y Nant yn ddramatig iawn mewn storm o fellt a tharannau a'r adeg hynny, swatiai'r ddau gyda'u teuluoedd wrth danllwyth o dân, yn glyd a chynnes.

calonSafai hen goeden dderwen a gafodd ei tharo gan fellten, wrth droed y mynydd, acyno, o dan ei brigau, ar noson dawel, y gofynnodd Rhys i Meinir ei briodi - ac wrth gwrs, derbyniodd ei gynnig. Roeddent ar ben eu digon, a phenderfynwyd ar Orffennaf y pumed i uno'i cariad, gan obeithio cael haul ar y fodrwy a phriodas dda.

Cychwynwyd ar y trefniadau. Aethai ffrindiau Rhys o gwmpas y pentref i ganu cân gwahoddiad i'r briodas yn Eglwys Clynnog, yn ogystal â gwahoddiad i roi anrhegion iddynt ddiwrnod cyn y dathlu. Felly, ar Orffennaf y pedwerydd, crwydrai'r pentrefwyr fel morgrug hyd y pentref, i ddanfon yr anrhegion a dymuno'n dda i cwpwl ifanc.

Roedd popeth yn barod - y bwyd wedi'i baratoi, y blodau wedi'u casglu ac wrth gwrs, ffrog hardd Meinir yn gorffwys ac yn aros i Meinir ei gwisgo drannoeth.

Roedd y ddau wedi addo cyfarfod ei gilydd wrth y dderwen ar noswyl y briodas, ac felly y bu. Cerfiodd Rhys galon ar y goeden, ac o'i mewn, cerfiodd eu henwau a dyddiad y briodas.

Gwawriodd y dydd arbennig, ac edrychai'r pentref yn hudolus o dan garthen denau o niwl o'r môr - arwydd o dywydd teg - yn union beth oedd angen ar achlysur hapus fel hyn.

Aethai cyfeillion Meinir ati'n fuan i'w helpu i wiso'i ffrog wen o lês hardd a phlethu blodau gwyllt yn ei gwallt.

Roedd yn arferiad i'r briodferch gael ei chyrchu i'r eglwys gan gyfeillion y priodfab, ond cynlluniodd Rhys a Meinir i gyfarfod, er mwyn cael mynd i'r eglwys gyda'i gilydd. Cuddiodd Meinir rhag y cyrchwyr - diflannodd i'r coed a rhedeg nerth ei thraed rhagddynt.

Bu'r cyrchwyr yn chwilio a chwilio a galw amdani, ond methwyd â dod o hyd iddi. Ymhen hir a hwyr penderfynwyd rhoi'r ffidil yn y tô a mynd am Eglwys Clynnog, gan feddwl fod Meinir wedi chwarae tric arnyn nhw. Doeddan nhw ddim am golli'r briodas - y diwrnod y bu cymaint o edrych ymlaen amdano ers misoedd.
y dderwen
Safai Rhys yn y man lle trefnodd y ddau i gyfarfod, a dechreuoddboeni gan nad oedd Meinir wedi cyrraedd. Meddyliodd wrtho'i hun fod y cyrchwyr wedi'i dal ac wedi mynd â hi i Glynnog. Brysiodd ar hyd y ffordd droellog rhag ofn iddi gyrraedd o'i flaen.

Cyrhaeddodd y cyrchwyr, ond doedd Meinir ddim efo nhw! Doedd neb wedi'i gweld. Doedd gan neb syniad lle'r oedd hi. Roedd hi wedi diflannu!

Aeth pawb o'r eglwys yng Nghlynnog i chwilio am Meinir. Galwyd ei henw, chwilwyd pob twll a chornel amdani - ond welwyd mohoni yn unlle! Roedd hyn yn ddirgelwch mawr i bawb. Doedd bosib ei bod wedi newid ei meddwl?

Wedi llwyr flino'n chwilio ac wedi torri ei galon, aeth Rhys am adref a'i ysbryd yn drwm. Roedd ei freuddwyd wedi troi'n hunllef.

Doedd dim trefn ar fywyd Rhys, collodd ddiddordeb ym mhopeth. Allai o ddim credu ei fod wedi colli ei annwyl Meinir - teimlai nad oedd bywyd yn werth ei fyw hebddi.

Roedd gwraig yn byw ar ochr y mynydd a allai ddarogan y dyfodol, a phenderfynodd un o gyfeillion Rhys fynd i'w gweld, gyda'r gobaith o gael gwybod lle'r aeth Meinir.
"Fydd Rhys yn debygol o weld Meinir eto?" gofynnodd iddi.
"Bydd," atebodd.
"Ymhle a pha bryd?"
"Does dim angen i chi chwilio amdani. Pan fydd golau llachar yn yr awyr, mi ddaw Meinir i'r golwg."

Ceisiodd cyfeillion Rhys ei gysuro, a dwedwyd wrth am beidio â chwilio mwy amdani - ond allai o feddwl am ddim arall ond am Meinir, a chafodd ryw deimlad yn mêr ei esgyrn y byddai'n siŵr o'i gweld eto rhyw ddydd. Roedd o'n drist, yn cerdded yn wargrwm drwy'r ardal efo'i gi, yn dal i chwilio am Meinir.

y ceubrenUn pnawn stormus, a'r gwynt yn rhuo, y glaw yn chwipio, tarannau'n clecian a mellt yn goleuo'r awyr yn Nant Gwrtheyrn, ymlwybrodd Rhys i'r storm mewn gobaith unwaith eto o ddod o hyd i Meinir. Aeth at yr hen dderwen, ac fel y cyffyrddodd y galon a gerfiodd arni - holltwyd y goeden gan fellten. Ceubren ydoedd - roedd ei thu mewn wedi pydru - ac ynddi roedd sgerbwd - sgerbwd mewn ffrog briodas - ffrog a fu unwaith o lês gwyn perffaith.

Meinir! Mae'n rhaid ei bod wedi cuddio yng nghanghennau'r dderwen ar ddydd y briodas wrth ddianc rhag y cyrchwyr, ac yna wedi disgyn i mewn iddi a methu dod allan. Roedd hi'n garcharor yn y goeden - y goeden lle cerfiwyd eu henwau - lle dangoswyd eu cariad i'r byd mewn calon yn y rhisgl!

Pan welodd Rhys yr olygfa drist, gwaeddodd nerth ei ben,
"Meinir! Meinir!!

Syrthiodd i'r llawr yn farw.

Fe'u unwyd yn Eglwys Clynnog, nid mewn priodas fel y bwriadwyd - ond yn hytrach mewn angladd - yn yr un bedd.

I gael copi o'r chwedl i'w argraffu - cliciwch yma

Enwau lleoedd

Pwy a enwodd Garn Fadryn?
Pwy a enwodd Y Rhiw
Mor bell, bell yn ôl?
Does gen i ddim cliw.

A beth am Dudweiliog,
Abersoch a Phorth Ceiriad,
Aberdaron, Rhoshirwaun?
Does gen i ddim syniad.

Ac er chwilio a chwilio
Yn ddyfal am olion
Ŵyr neb yn y byd
Pwy â enwodd Rhydolion.

A phwy oedd yr un
A fedyddiodd Blawty,
yn yr oes gynnar honno
Cyn bod sôn am sgrifennu?

A phwy oedd y rhai cynta
i ddweud â'u tafoda
"Dyma Gefnamwlch,
Dyma Fodwrdda"?

Wel, pwy bynnag â'u henwodd
Mae un peth yn ffaith
Mai Cymry oedd y bobol
A Chymraeg oedd eu hiaith.

Allan o "Salwch Odli" gan Margiad Roberts
Cerddi Gwalch
Gwasg Carreg Gwalch

Ym Mhorthdinllaen mae cwrw llwyd
A hwnnw'n ddiod ac yn fwyd,
Ac mi yfwn lond fy mol,
Nes mod i'n troi fel olwyn trol.
Haul yn t'wynnu ar Ynys Enlli,
Minnau sydd ymhell ohoni,
Pe bai gennyf gwch neu lestar,
Mi awn iddi'n ewyllysgar.
   
Aberdaron dirion deg
Morfa Nefyn cau dy geg,
Llangwnnadl yn well na neb.
 
   
   
   

 

Heulwen ar hyd y glennydd - a haul hwyr
A'i liw ar y mynydd,
Felly Llŷn ar derfyn dydd,
Lle i enaid gael llonydd.
J Glyn Davies